P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Bridgend Coalition of Disabled People, ar ôl casglu 3,040 o lofnodion – 649 ar bapur a 2,391ar-lein.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno
"Tystysgrif Mynediad" yn dangos rhifau o ddim i bump yn yr un modd
â'r Dystysgrif Hylendid Bwyd. Dylid asesu pob adeilad a
ddefnyddir gan y cyhoedd fel siopau, siopau bwyd, clybiau
chwaraeon, tafarndai a swyddfeydd, yn ogystal â gwasanaethau
trafnidiaeth gyhoeddus, yn ôl pa mor hygyrch pa mor hygyrch
ydynt i gadeiriau olwyn, yn ogystal â pha mor hawdd ydynt i
rywun sydd â nam ar y synhwyrau neu anabledd dysgu eu
defnyddio.
Rydym eisiau i bob safle busnes gael rhif i'w arddangos i ddangos
sut mae ei adeiladau yn ystyried pobl anabl. Rydym yn gobeithio y
bydd y rheini sy'n cael sgoriau uchel yn darbwyllo safleoedd
cyfagos i wella mynediad ac ennill sgôr uchel eu
hunain.
Pan gyflwynwyd Tystysgrifau Hylendid Bwyd gyntaf yng Nghymru, nid oeddent yn orfodol, ond fe ddaethant yn orfodol yn ddiweddarach. Ers cyflwyno'r Dystysgrif Hylendid Bwyd, rydym yn credu bod safonau bwyd wedi gwella'n helaeth ac mae safleoedd sydd â rhif uchel yn arddangos eu tystysgrifau â balchder. Rydym yn credu y bydd safleoedd yn gwneud mwy o ymdrech i wella mynediad a gwasanaethau i'r gymuned anabl pe bai Tystysgrif debyg ar gyfer mynediad yn cael ei chyflwyno.
Rydym yn credu y bydd cyflwyno tystysgrif o'r
fath yn gwella'n aruthrol y gwasanaethau i siopwyr anabl a'r rheini
sydd eisiau mynd allan am ddiod neu bryd o fwyd, neu ddefnyddio
trafnidiaeth gyhoeddus, sef cyfleusterau y mae'r rhan fwyaf yn eu
cymryd yn ganiataol.
Er mwyn ennill sgôr o bump, yn ogystal â bod yn hygyrch
i gadeiriau olwyn, bydd angen i safleoedd fod yn gwbl gynhwysol i'r
rheini â nam ar eu golwg a'u clyw, ac o bosibl bod gan staff
ddealltwriaeth o'r rheini ag anabledd dysgu.
Mae bwyty â bwydlen braille neu staff sy'n gallu defnyddio
iaith arwyddion yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr a chynnig
profiad llawer haws a llai o straen i rywun wrth wneud y pethau bob
dydd y mae'r rhan fwyaf yn eu cymryd yn ganiataol.
Un syniad posibl, yn ogystal â chael sgôr dim i bump,
fyddai cael symbolau ychwanegol o dan hyn i ddangos a oes gan safle
fynediad llawn i gadeiriau olwyn, toiledau hygyrch, gwybodaeth mewn
braille neu staff sy'n gallu defnyddio iaith arwyddion, ac a yw'n
ystyried awtistiaeth.
Rydym yn teimlo y byddai hyn yn arwain at welliannau mawr. Mae
llawer o siopau bwyd yn cystadlu â'i gilydd i gael sgôr
uwch ac rydym yn gobeithio y bydd hyn hefyd yn digwydd yn achos
Tystysgrif Mynediad.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad